Glanhau'r glannau

Wrth i bryder am blastig yn y môr gynyddu, ai ein cyfrifoldeb ni
yw mynd ati i glirio sbwriel oddi ar ein traethau ein hunain?

Ar y pentir uwchlaw Porth Trecastell yng ngorllewin Ynys Môn mae siambr gladdu Barclodiad y Gawres yn cadw golwg draw dros Fôr Iwerddon ers 5,000 o flynyddoedd.

Ond dros y degawdau diwethaf mae’r ceryntau sy’n cyrraedd y bae yma yn cario mwy a mwy o sbwriel o bedwar ban byd.

Gallai darn o blastig wedi ei daflu i’r môr yng Ngogledd America gyrraedd y glannau hyn o fewn ychydig flynyddoedd.

Ar fore Sadwrn oer ym mis Ionawr 2018 gyda’r gwynt a'r glaw yn chwipio'r arfordir creigiog mae 150 o bobl a phlant wedi mentro allan i glirio’r traeth o blastig.

Nod y diwrnod, sydd wedi ei drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ydy clirio gymaint â phosib o sbwriel o'r traethau a'r baeau bach cyfagos ar y darn yma o arfordir i'r de o borthladd prysur Caergybi.

A hithau'n dal i dywallt y glaw mae'r gwirfoddolwyr yn casglu eu sachau a'u ffyn pigo sbwriel cyn heidio i'r traeth i'w lanhau.

Beverley

Mae Beverley o Fynydd Llandegai wedi dod gyda’i merch fach, Fern, sy’n helpu i bigo rhai o’r miloedd o ddarnau bach o blastig sy’n cael eu gadael ar y traeth gyda phob llanw a thrai.

"Mae’r plastig ym mhobman, mae’n broblem echrydus," meddai.

"Ond mae’n rhaid ei daclo ar lefel leol."

Mae Beverley yn dangos y ffyn bach cotton buds glas sydd ymhobman ar y tywod neu wedi eu dal gan y gwymon.

"Maen nhw'n un o'r pethau gwaetha'," meddai.

"Mae pobl yn eu taflu nhw i lawr y toiled ac maen nhw’n ffeindio eu ffordd i fan hyn."

"Mae’r plastig ym mhobman, mae’n broblem echrydus."
Rachel

"Mae’r ffyn cotton buds yn ddigon bach i ddianc drwy ffilteri’r system garthffosiaeth," meddai Rachel sy'n un o Arwyr Sbwriel Cadw Cymru’n Daclus.

Mae hi'n dangos faint mae hi wedi ei gasglu mewn cwta hanner awr ar y traeth.

"Dwi'n cadw lle gwely a brecwast yn Rhosneigr felly mae o ddiddordeb imi bod y traethau’n lân i gwsmeriaid hefyd!

"Dwi’n treulio lot o amser yn gwirfoddoli i lanhau traethau – dwi’n credu ei bod hi’n ddyletswydd arna' i fel defnyddiwr."

"Mae’r ffyn cotton buds yn ddigon bach i ddianc drwy ffilteri’r system garthffosiaeth."
Karla a Paige

"Rydyn ni’n rhyddhau’r gwymon yma o lein bysgota sydd wedi mynd yn sownd,” meddai Karla Bentley sy'n byw yng Nghaergybi.

"Mi allai lein fel hyn wneud niwed mawr i bysgod, morloi, crwbanod a hyd yn oed grogi adar bach sydd newydd ddeor mewn nythod," meddai ei merch Paige, sy'n fyfyrwraig.

Mae Paige yn mynd yn aml i gasglu sbwriel oddi ar y traeth ac mae hi'n obeithiol bod gwleidyddion yn dechrau cymryd sylw o'r broblem.

"Hyd yn oed os ydych chi ddim ond yn gwneud y cyfraniad lleiaf, mae'n werth ei wneud," meddai.

"A dylen ni i gyd fod yn fwy ystyriol wrth brynu."

"Mae er ein mwyn ni'n hunain yn y pen draw," meddai Karla.

"Rydyn ni, yr anifeiliaid a bywyd gwyllt eisiau rhywle neis i fyw."

“Mi allai lein fel hyn wneud niwed mawr..."
Colin

Mae Colin Thomas o Dregarth wedi dod o hyd i lein bysgota hefyd, wedi cordeddu mewn darn mawr o wymon a phwysau plwm ar ei flaen.

Mae bron yn amhosibl ei gael yn rhydd.

Sbwriel o becynnau bwyd a diod mae pobl wedi dod efo nhw i’r traeth mae’n eu canfod amlaf wrth grwydro llwybr arfordir Môn, meddai.

Mae'n cyfaddef ei bod "yn amhosib pigo pob darn o blastig bach".

"Ond mi allwn ni gael gwared â’r plastig mawr cyn iddo erydu’n ddarnau llai," meddai.

Miki

Erbyn y p’nawn mae’r traeth yn edrych llawer glanach. Ond mae Miki Danion o Fangor yn dal i grwydro ac yn chwilio pob modfedd sgwâr o'r tywod am drysor anarferol.

Ers dechrau glanhau traethau mae Miki wedi ymddiddori yn y gymuned o bobl sy'n creu celf allan o'r pethau sy'n cael eu darganfod ar draethau, fel topiau Smarties a Lego.

"Unwaith rydych chi’n dechrau chwilio am dopiau Smarties, rydych chi’n eu gweld nhw ym mhobman!" meddai.

Mae’n dangos lluniau o'r creadigaethau yma ar ei ffrwd Instagram ac yn sôn am y llong cario Lego a gollodd ei chargo oddi ar arfordir Cernyw yn 1997.

Mae’r darnau Lego yn dal i gael eu golchi ar y traethau a’r gystadleuaeth i ddod o hyd iddyn nhw yn boeth.

Mae Miki wedi darganfod tagiau oddi ar becynnau eog o Ogledd America ar y traeth a bagiau creision o’r 1990au.

"Mae'n dangos pa mor bell mae pethau'n teithio rownd y byd a faint o amser mae'n gymryd i'r pethau yma bydru," meddai.

Nia

Mae Nia Jones yn Swyddog Ymwybyddiaeth Morol i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a'i chefndir mewn Swoleg Morol.

Mae hi wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy'n dod i ddigwyddiadau fel heddiw.

“Mae rhaglen Blue Planet II wedi rhoi hwb mawr i annog pobl i gychwyn meddwl am eu defnydd nhw o blastig a dechrau sylwi ar faint o blastig sydd ar lan y môr," meddai.

"Mae digwyddiad fel hyn yn rhywbeth maen nhw’n gallu ei wneud i wneud rhywbeth am y peth.

"Mae'n dangos faint o wahaniaeth allwn ni ei wneud os ydyn ni’n tynnu efo’n gilydd.

Y peth efo plastig ydy nad ydi o byth yn diflannu.

"Be' sy’n digwydd ydi fod y darnau mawr o blastig yn torri'n llai ac yn llai ac wedyn yn achosi lot o broblemau.

"Y cyntaf ydy fod anifeiliaid yn eu bwyta nhw. Rydyn ni’n clywed lot o straeon am forfilod a dolffiniaid a môr-grwbanod wedi bwyta sbwriel.

"Mae’n mynd yn styc yn eu stumogau nhw.

"Yn ail, mae rhai anifeiliaid yn gallu mynd yn sownd ynddo a boddi.

"Hefyd, fel mae’r plastig yn torri’n ddarnau bychan bach, maen nhw wedi ffeindio bod plancton, sef anifeiliaid meicrosgopig yn y dŵr, yn bwyta tameidiau bach o blastig.

Mae’r plastig yma mor fach fel na fedrwch chi ei weld heb feicrosgop.

"Mae wedyn yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd: mae’r pysgod yn bwyta’r plancton ac rydyn ni, neu ddolffiniaid, yn bwyta’r pysgod.

"Felly, mae’n broblem enfawr."

A beth sy'n gwneud y broblem yn waeth meddai Nia ydy bod darnau bach o blastig hefyd yn denu cemegion a llygrwyr sy'n glynu wrthyn nhw fel magned.

Iechyd ac economi

Mae'n rhaid i bobl sylweddoli fod hyn yn effeithio arnon ni yn y pen draw, meddai Nia.

"Un o’r sialensau i ni ydy cyfleu’r neges fod hyn yn effeithio ar bobl hefyd, nid ar fywyd môr yn unig.

"Mae’n effeithio ar iechyd pobl ac ar yr economi lleol - os ydi rhywle yn ofnadwy o fudr mae hynny’n mynd i effeithio ar dwristiaeth."

Cannoedd o boteli plastig

O gwmpas y trwyn i'r de o Borth Trecastell mae aelodau o'r RSPCA wedi bod yn helpu i gasglu'r sbwriel mwy, anoddach ei gyrraedd, o fae bach cyfagos drwy ddefnyddio rhaffau a sachau.

"Be' sy’n digwydd yn y baeau bach ydy fod sbwriel yn dod i fewn ond ddim yn cael ei dynnu allan mor hawdd."

"Be' sy’n digwydd yn y baeau bach ydy fod sbwriel yn dod i fewn ond ddim yn cael ei dynnu allan mor hawdd."

"Maen nhw wedi ffeindio lot o sbwriel mwy o faint – cynhwysyddion, trays ’sgota, bŵis a channoedd o boteli yfed plastig," meddai Nia.

Mae broc môr a sbwriel yn dod yma o bell ("ddaru ni ffeindio tag cimwch o Maine ac un o Newfoundland") ac agos ("mae yna lot o stwff lleol hefyd - mi wnes i ddod o hyd i ddarn o botel Fairly Liquid o'r 1980au hefyd").

Mae Nia'n rhestru pethau eraill sydd wedi eu canfod ar y traeth heddiw - teiars, rhaffau, cotton buds a nurdles, sy'n anodd eu casglu am eu bod mor fach.

Peledi bach o blastig ydy nurdles – y deunydd crai ar gyfer creu plastig sy'n cael eu defnyddio mewn ffatrïoedd.

"Os oes ffatri wrth ymyl afon mae’r nurdles yn mynd i mewn i’r afon ac yn dod i mewn i’r môr neu weithiau mae llongau cargo sy'n eu cario yn mynd i lawr," meddai Nia.

Erbyn 15:00 mae’r holl sbwriel sydd wedi ei gasglu o’r traeth ac o rai o'r traethau cyfagos wedi ei gasglu at ei gilydd i'w bwyso a'i sortio.

Mae'r sbwriel sydd wedi ei gasglu yn y sachau yn pwyso 500kg.

Wrth i haul ddiwedd y p'nawn ddechrau gostwng mae un teulu bach yn cyrraedd yn hwyr gyda’u bwcedi yn barod i helpu’r achos.

Does dim llawer o blastig ar ôl iddyn nhw ei hel yn Nhrecastell a’r traeth yn gallu anadlu eto.

Ond mae’r llanw ar ei ffordd i mewn.

Erbyn y bore bydd y plastig mân yn ôl a’r gwaith yn dechrau eto.