Ym mis Hydref chwythodd Storm Callum ar draws rhannau helaeth o Gymru gan adael dinistr a llanast ar ei hôl. Un o’r ardaloedd i ddioddef waethaf oedd Llandysul yng Ngheredigion.
Torrodd yr afon Teifi ei glannau a llifo drwy’r pentref gan ddinistrio tai a busnesau yn y llifogydd gwaethaf ers 30 mlynedd.
Ond beth sy’n digwydd ar ôl i’r dŵr gilio? A sut mae’r bobl leol yn ymdopi gyda’r llanast sydd ar ôl, yn enwedig gan fod nifer heb yswiriant? Dyma’u stori nhw.
Y Ganolfan Ganŵio
Mae Canolfan Ganŵio Rhwyfwyr Llandysul ar lannau’r afon Teifi, ym Mhont Tyweli ger Llandysul. Roedd Paul Taylor yn gweithio yno pan darodd Storm Callum.
“Llifodd y dŵr yn syth drwy ein adeiladau ac ar draws ein maes parcio. Roedd tua 10 troedfedd o ddŵr yn ein sied gychod, tua thair troedfedd yn ein swyddfa a thua phump troedfedd yn y bunkhouse.
Y foment waethaf?
“Gweld ein sied gychod a’r boat rack sy’n gallu dal 50 cwch yn cael ei falu yn erbyn y bont. Roedd yn dorcalonnus i weld ein trailer gyda ein marquee ynddo’n cael ei olchi i lawr yr afon.
Colled ariannol
“Fel busnes, allwn ni ddim fforddio cost yr yswiriant llifogydd. Mae’r llifogydd ‘ma wedi achosi tua £200,000 o ddifrod i’r clwb.
“Yr hyn sy’n torri fy nghalon yw fod cartrefi ac eiddo pobl wedi eu dinistrio. Gallwn ni beintio a phrynu cychod newydd, ond y bobl sy' wedi colli eiddo ac atgofion sy’n talu’r pris go iawn.
“Mae’n dorcalonnus i weld pentyrrau o sbwriel. Os wyt ti’n rhwyfo lawr yr afon, rwyt ti’n gweld yr effaith amgylcheddol a’r effaith ar fywyd gwyllt.
‘Ysbryd cymunedol’
“Rydyn ni'n teimlo'n bositif oherwydd yr ysbryd cymunedol. Yn ein clwb ni, mae 'na deimlad o obaith. Dydyn ni ddim wedi newid rhyw lawer am 20 mlynedd. Mae hyn fel dechrau eto i ni – beth allwn ni newid a beth allwn ni wella?”
Heb gartref dros y Nadolig
Cafodd cartref Paul Phillips ei ddinistrio gan y llifogydd ac mae e a’i deulu yn byw mewn gwesty dros dro.
Dywedodd Paul am y diwrnod pan lifodd yr afon mewn i’r tŷ: “Aeth y wal oedd yn dal Afon Teifi yn ôl, ac yna roedd yr afon yn llifo i lawr yr heol. O fewn hanner awr roedd dwy droedfedd a hanner o ddŵr yn y tŷ. Roedd yn llifo’n rhy gyflym i wneud unrhyw beth i'w atal.
Y foment waethaf?
“O’n i’n iawn gyda cholli’r dodrefn a’r stwff yn y tŷ. Ond cafodd bag o waith ysgol y plant ei ddinistrio. Dyma pryd wnaeth e fy nharo i fod pethau yma na allwn ni eu cael yn ôl. Dyna’r foment waethaf a gorffes i gerdded mas o’r tŷ.
Llifogydd 1987
Mae Linda Thomas wedi byw yn Llandysul ers 38 mlynedd ac yn cofio llifogydd 1987.
“Mae rhan fwya’ rownd fan hyn heb yswiriant ond ni’n talu premiums uchel. Cyn gynted â ti’n dweud y côd post, dyw’r cwmnïau yswiriant ddim eisiau gwybod.
“Bydd hi’n bedwar mis erbyn i’r adeiladwyr orffen. O’n i moyn addurno, ond ddim fel hyn!
“Yn 1987 gathon ni lifogydd ond roedd rheina’n rhai bach. Roedd y tro yma’n wahanol iawn.”