Adfer triniaethau canser wedi bod yn 'rhy araf'

  • Published
Mae ysbyty preifat Spire Hospital wedi'i glustnodi fel canolfan heb Covid-19
Image caption,

Mae ysbyty preifat Spire Hospital wedi'i glustnodi fel canolfan heb Covid-19

Mae Cymru yn llusgo ar ôl Lloegr o ran sefydlu canolfannau sydd heb Covid-19 er mwyn trin cleifion canser, yn ôl Cancer Research UK.

Yn ôl rheolwr materion cyhoeddus yr elusen yng Nghymru, Andy Glyde, dyw'r gwaith o adfer triniaeth i gleifion canser mewn safleoedd diogel ddim wedi bod yn ddigon cyflym.

Yn Lloegr, mae 'na gadarnhad y bydd miloedd o gleifion sy'n dioddef o ganser yn cael triniaeth mewn canolfannau newydd fydd ddim yn trin cleifion sy'n dioddef o coronafeirws.

Yng Nghymru, mae'r llywodraeth yn dweud mai byrddau lleol ddylai wneud penderfyniadau am wasanaethau.

Dechrau clustnodi ysbytai

Mae'r canolfannau 'di-feirws' rhanbarthol wedi'u sefydlu mewn 21 o ardaloedd gwahanol yn Lloegr er mwyn gwneud llawdriniaethau brys yn ystod y pandemig.

Yn ôl Mr Glyde, mae cleifion yn bryderus.

"Mae Cymru yn llusgo ar ôl Lloegr o ran sefydlu canolfannau sydd heb haint Covid-19 i drin cleifion canser yng Nghymru," meddai.

Mae 'na ysbytai annibynnol yn dal i gynnal rhai triniaethau mewn amgylchedd sydd heb eu heintio â'r feirws yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban hefyd.

Mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn dweud eu bod wedi dechrau clustnodi ysbytai penodol er mwyn sicrhau y gall triniaeth canser a thriniaethau eraill ailddechrau'n ddiogel.

Yn ôl cyfarwyddwr gofal clinigol canser yng Nghymru, yr Athro Tom Crosby, dim ond tua chwarter y cleifion canser sy'n cael eu cyfeirio at arbenigwyr sy'n cael eu prosesu drwy'r system.

"Rhaid i ni glustnodi ysbytai penodol i edrych ar ganser ac fe fydd yn rhaid i'r rhain fod ar wahân i'r ysbytai hynny sy'n gofalu am gleifion gyda salwch Covid dwys," meddai.

"Efallai bydd y rhain yn ysbytai ychydig yn wahanol i'r rhai ry'n ni wedi arfer eu defnyddio ac o bosib yn cynnig darpariaeth ar sail ranbarthol."

Ychwanegodd: "Rhaid i ni dawelu ofnau cleifion a staff fod y gwasanaeth ry'n ni yn ei ddarparu mor ddiogel â phosib er mwyn sicrhau bod mynediad yn gyson a theg ar draws Cymru, ac rwy'n credu fod ychydig mwy y gallwn ei wneud yn y maes yma."

'Ardaloedd gwyrdd'

Image source, John Lord/Geograph
Image caption,

Mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn dweud eu bod wedi dechrau clustnodi rhai ysbytai penodol i drin cleifion canser

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ei fod yn cwblhau cynlluniau "i ddarparu llawdriniaethau brys mewn nifer o ardaloedd sydd wedi'u clustnodi fel rhai sy'n rhydd o Covid-19 ac a fydd yn cael eu hystyried yn 'ardaloedd gwyrdd'".

Ychwanegodd y bydd ysbyty preifat Spire yng Nghaerdydd - rhan o Ysbyty Llanddochau ac ardal o fewn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas - yn cael ei defnyddio ar gyfer y dibenion hyn.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod ysbyty preifat y Vale ym Mhont-y-clun yn cefnogi a darparu gofal iechyd brys ar eu cyfer.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda holl fyrddau iechyd Cymru i ofyn pa gynlluniau sydd ganddyn nhw ar y gweill.

Aros am driniaeth

Mae Robert Wright yn 74 oed ac yn byw ym mhentref Llanfachraeth ar Ynys Môn. Mae'n aros am lawdriniaeth i dynnu tiwmor o'i bledren.

Dywedodd y dylai fod wedi cael y driniaeth fis diwethaf ond mae wedi ei ohirio tan fis Awst o achos y pandemig.

Image caption,

Mae llawdriniaeth Robert Wright wedi ei gohirio tan fis Awst o achos y pandemig

Mae'n credu fod y tiwmor yn tyfu, sy'n achosi poen cynyddol iddo ac mae'n pryderu y gall y canser ymledu os bydd yn gorfod aros yn hir am lawdriniaeth.

Dywedodd: "Mae'n mynd yn waeth yn raddol rŵan.

"Bob tro rwy'n eistedd i lawr, rydych chi'n gallu ei deimlo fo yna a does dim modd ei gael allan o'ch meddwl. Mae modd gwneud pethau i gadw'r meddwl yn brysur ond mae'n dal i gnoi yn y cefndir.

"Mewn gwirionedd dydw i ddim yn gweld datrysiad mor sydyn ag y maen nhw'n ei ddweud. Dwi'n meddwl eu bod yn cynnig gobaith ffug i bobl."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Yn union fel yr oedd yr ymdrech i ail-ddylunio'r gwasanaeth iechyd dros nos ar gyfer Covid-19 yn ymdrech anferth, rhaid cael ymdrech anferth nawr i ddod â'r elfennau arferol a sylfaenol hynny o ddarpariaeth y gwasanaeth iechyd yn ôl."

Ychwanegodd Mr Glyde: "Gyda thua 195,000 o bobl yng Nghymru'n derbyn diagnosis canser bob blwyddyn, mae'n amlwg fod yn rhaid i ddiagnosis a thriniaeth canser barhau.

"Mae hefyd yn hanfodol fod cleifion yn teimlo'n hyderus eu bod yn cael mynediad i brofion diagnostig ar gyfer canser ynghyd â thriniaethau parhaus mewn lleoliad diogel yn rhydd o haint Covid-19.

"Mae canolfannau canolog sy'n rhydd o Covid-19 yn cael eu sefydlu mewn rhannau eraill o'r DU ac fe hoffem weld agwedd debyg yn cael ei dilyn yng Nghymru mor fuan â phosib."