Arestio chwe pherson ifanc ar ôl ymddygiad gwael yn Abertawe

  • Published
Car heddlu
Image caption,

Dywedodd Heddlu'r De y gallai camau pellach gael eu cymryd ar ôl adolygu camerâu cylch cyfyng

Mae chwe pherson ifanc rhwng 13 a 15 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ar ôl ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe.

Fe fydd yr heddlu hefyd yn ymweld â chartrefi 24 yn rhagor ar ôl difrod troseddol, ymladd ac ymddygiad ymosodol tuag at bobl yn nghanol y ddinas.

Dywedodd Heddlu'r De y gallai camau pellach gael eu cymryd ar ôl adolygu camerâu cylch cyfyng.

Mae gorchymyn mewn lle sy'n rhoi'r hawl i swyddogion wahardd unrhyw un dros 10 oed sy'n achosi trwbwl yn yr ardal.

"Fe fyddwn yn parhau i weld mwy o bresenoldeb yr heddlu yng nghanol y ddinas dros gyfnod y gwyliau haf," dywedodd yr Arolygydd Mark Watkins.

"Yn ogystal ag arestio chwech, mae tri pherson ifanc wedi cael gorchymyn i adael yr ardal, tra y bydd pedwar yn rhagor yn derbyn ymholiadau post am droseddau a gyflawnwyd.

"Mae gennym ni 24 o unigolion ychwanegol ar hyn o bryd a fydd yn derbyn ymweliadau cartref gan yr heddlu a phartneriaid i dderbyn rhybuddion ymddygiad gwrthgymdeithasol."

Ychwanegodd: "Byddem yn gofyn i bob rhiant a gofalwr sgwrsio â'u plentyn a'u cynghori y gallai euogfarnau troseddol effeithio ar eu dyfodol os y byddwn yn canfod eu bod wedi bod yn gysylltiedig â'r materion ymddygiad gwrthgymdeithasol diweddar."

Related topics