Trafod adolygiad Plaid Cymru

Cafodd casgliadau adolygiad mewnol oedd wedi cael ei gomisiynu yn sgil perfformiad gwael Plaid Cymru yn etholiadau'r Cynulliad y llynedd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

O dan y teitl "Camu Mlaen - Adfywio'r Blaid i Gymru", mae'r adroddiad 80 tudalen yn cynnwys 95 o argymhellion y bydd y Blaid yn ei ystyried dros y misoedd nesa'.

Yn ôl gwefan Plaid Cymru mae disgwyl newidiadau sylweddol i ddigwydd dros y misoedd nesa gyda'r nod medda'n nhw o wella perfformiad etholiadol.

Mae'r ddogfen yn son am yr angen am eglurdeb yn neges gyfansoddiadol y blaid a'r nod o annibyniaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ogystal â hyn mae'r adroddiad yn awgrymu bod y Blaid yn ystyried a ddylid newid ei henw yn Saesneg o Plaid Cymru The Party of Wales i'r Welsh National Party.

Dylan Jones a fu'n holi Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, ar Taro'r Post.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd