Ymchwil i'r siopau yn Rhuthun

Mae clywed am siopa yn cau ar y stryd fawr mewn trefi a dinasoedd yn stori gyffredin y dyddiau yma.

Yr wythnos yma cyhoeddwyr arolwg sy'n awgrymu fod siopau yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn wag o'i gymharu â Lloegr a'r Alban.

Ond ceisio gwella'r ddarpariaeth fu'r nod yn Rhuthun dros y misoedd diwetha' wrth i siopwyr dirgel ymweld â'r dref.

Mi fuo'n nhw'n rhannu casgliadau eu gwaith ymchwil mewn digwyddiad arbennig gyda busnesau'r dre nos Fawrth.

Merfyn Davies fu'n clywed gan un o'r rhai gafodd ymweliad ganddyn nhw gan ddechrau gyda Trevor Jones sy'n cadw siop ddillad dynion yn y dref.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd