Diwrnod cyntaf y Fflam yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ar seithfed diwrnod ei thaith o amgylch Prydain cyn dechrau'r Gemau Olympaidd yn Llundain, mae'r Fflam Olympaidd yn cyrraedd Cymru am y tro cyntaf.
Fore Gwener mae'r fflam yn gadael Caerwrangon cyn croesi'r ffin i Gymru ychydig cyn 11:00am.
Mae rhedwyr y diwrnod, dolen allanol yn cario'r fflam am 300 metr yr un, gan ymweld â naw o ganolfannau yng Nghymru cyn gorffen y diwrnod yn y brifddinas.
Y disgwyl yw y bydd y fflam yn cyrraedd Caerdydd erbyn 5:32pm.
Mae'r traddodiad o gludo'r Fflam Olympaidd o gartref y Gemau yng Ngwlad Groeg i leoliad y gemau yn dyddio'n ôl i ddechrau'r gemau modern yn 1896.
Daeth y Fflam i Brydain ar awyren aur arbennig a glanio ym Mhen Tir yng Nghernyw fore Sadwrn, Mai 18.
Y cyntaf i gario'r fflam oedd enillydd medalau aur Prydain, yr hwyliwr Ben Ainslie.
Ar seithfed diwrnod y daith mae'r Fflam yn croesi Clawdd Offa o Gaerwrangon i Gaerdydd, gan basio drwy Trefynwy, Y Fenni, Pont-y-pŵl a Chasnewydd cyn cyrraedd y brifddinas.
Amcangyfrif o amseroedd Taith y Fflam Olympaidd :-
07:58 Caerwrangon
08:32 Powick
08:44 Malvern
09:24 Malvern Wells
10:12 Y Rhosan ar Wy
11:04 Trefynwy
11:29 Rhaglan
11:48 Y Fenni
12:43 Brynmawr
14:16 Blaenafon
14:48 Abersychan
15:15 Pont-y-pŵl
15:46 Casnewydd
17:32 Caerdydd