Ail ddiwrnod y Fflam yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Ar ail ddiwrnod ymweliad y Fflam Olympaidd â Chymru - sef wythfed diwrnod y daith o amgylch Prydain, mae'r ffagl yn teithio o Gaerdydd i Abertawe.

Ond nid taith syml ar hyd traffordd yr M4 yw hon, ond cyfle i bobl cymoedd y de i gael cipolwg ar un o draddodiadau hynaf y Gemau Olympaidd.

Ar ôl gadael Caerdydd yn blygeiniol, cafodd y ffagl ei chludo drwy Fro Morgannwg cyn troi'n ôl am y brifddinas a symud ymlaen tua'r gogledd.

Wedi taith drwy Ferthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, mae'r ffagl yn troi am Ben-y-bont ar Ogwr.

Bydd y Fflam yn mynd drwy ardal Castell-nedd Port Talbot cyn gorffen y diwrnod yn Abertawe.

Ar ôl treulio'r noson yn y ddinas, bydd y Fflam yn symud tua'r gorllewin fore Sul.

Map o'r daith

Amcangyfrif o amseroedd Taith y Fflam :-

  • 06:29 Caerdydd

  • 07:00 Dinas Powys

  • 07:16 Y Barri

  • 08:59 Caerdydd

  • 09:50 Caerffili

  • 10:40 Pontypridd

  • 11:09 Merthyr Tudful

  • 13:04 Treherbert

  • 13:19 Ynyswen

  • 13:24 Treorci

  • 13:48 Nant-y-moel

  • 14:08 Dyffryn Ogwr

  • 14:29 Bryncethin

  • 14:43 Pen-y-bont ar Ogwr

  • 15:17 Trelales

  • 15:31 Y Pîl

  • 16:06 Margam

  • 16:24 Taibach

  • 16:32 Port Talbot

  • 16:44 Llansawel

  • 17:09 Castell-nedd

  • 17:45 Abertawe