Goleuo cloc yn binc i gofio April
Dair wythnos ers diflaniad April Jones o Fachynlleth, daeth cannoedd o bobl i ganol y dref nos Lun i gofio amdani.
Cafodd y cloc ei oleuo'n binc - hoff liw'r ferch fach bump oed.
Mae Mark Bridger, dyn lleol 46 oed, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n dal i chwilio am April.
O Fachynlleth, adroddiad Llyr Edwards.