Cigyddion lleol i elwa?
Wrth i'r argyfwng cig ceffyl ledu fe fydd yr Undeb Ewropeaidd yn cynnal uwch gynhadledd frys ym Mrwsel ddydd Mercher i drafod y sgandal. Mae 'na alw am newid y ffordd y mae cig sydd wedi ei brosesu yn cael ei labelu er mwyn cynnwys enw'r wlad o le mae'r cig yn tarddu. Yn y cyfamser, yma yng Nghymru, mae'n ymddangos bod cigyddion lleol yn elwa wrth i'r honiadau o dwyll ddwysáu. Dyma Aled Huw.