Y Pab Ffransis I yn ymddangos i'r byd

Mae'r Pab newydd wedi ymddangos i'r byd.

Bydd y Cardinal Bergoglio o'r Ariannin yn cael ei adnabod fel Y Pab Ffransis I.

Roedd 'na fonllefau o gymeradwyaeth pan ymddangosodd ar falconi Basilica San Pedr.

Daeth hynny ar ôl deuddydd o drafod a phleidleisio gan 115 o Gardinalaid yr Eglwys Babyddol.

O Rufain adroddiad Alun Thomas.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd