Tîm Achub Mynydd Llanberis yn ffilmio cyrch
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn annog pawb heblaw'r dringwyr mwyaf profiadol i gadw oddi ar y mynyddoedd uchaf dros y Pasg oherwydd y tywydd drwg.
Daeth y rhybudd wrth i Dîm Achub Mynydd Llanberis gyhoeddi lluniau o gyrch ar Yr Wyddfa ddydd Iau.
Cafodd y tîm eu galw i gynorthwyo menyw 41 oed a'i mab 17 oed oedd yn sownd ar y mynydd. Roedd y ddau wedi mynd yn ffwndrus ac yn diodde' o effeithiau'r oerni wrth geisio dod i lawr llwybr Pen-y-Gwryd o'r copa.
Roedd eira trwm yn lluwchio ar y mynydd.
Cafodd y ddau, oedd heb y cyfarpar cywir, eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn cyrch a barodd am bedair awr.