'Gwastraff arian' prynu'r maes awyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd ar gost o £52 miliwn.

"Gwastraff arian" yw hyn yn ôl y Ceidwadwyr sy'n gweld hyn fel adlais o bolisiau sosialaidd y 1970au.

Mae Prif Weithredwr Maes Awyr Bryste hefyd yn honni fod y pris dalodd y llywodraeth, dipyn yn uwch na phris y farchnad.

Mae o hefyd yn poeni y bydd hyn yn golygu fod y llywodraeth yn bwriadu rhoi cefnogaeth annheg i Faes Awyr Caerdydd.

Ond mynnu bod y cytundeb yn cynnig gwerth am arian i'r trethdalwyr mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Cafodd Alun Thomas ymateb Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros Fro Morgannwg, Alun Cairns.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd