Pryderon am gau ysbyty i'r henoed
Mae pryderon wedi'u codi am gynlluniau i gau ysbyty i'r henoed ym Mhontardawe.
Daeth bron i 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol Ysbyty Gelli-nudd nos Lun.
Yn ôl rhai sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau, mae'r safle yn adnodd pwysig i gleifion oedrannus sy'n gwella ar ôl triniaeth ysbyty.
Ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dweud y byddai cau'r ysbyty yn arbed £340,000.
Bu Owain Evans yn siarad ag un o'r gwrthwynebwyr, Hilary Thomas, o gyfeillion Ysbyty Gelli-nudd.