Guto Bebb AS: 'Cynnal etholiad ddim yn gamgymeriad'

Fe fydd Guto Bebb AS yn dychwelyd i San Steffan wedi buddugoliaeth agos iawn yn etholaeth Aberconwy.

Er i rai aelodau o'r Blaid Lafur honni eu bod yn barod i ffurfio llywodraeth, mae Mr Bebb yn meddwl mai'r unig opsiwn ydi ffurfio llywodraeth Geidwadol gyda chefnogaeth gan bleidiau eraill yn San Steffan.