RSPB: Dylai difa bilidowcod fod yn 'opsiwn olaf'

Dylai difa adar fod yn "opsiwn olaf" wrth geisio gwarchod poblogaethau pysgod, yn ôl elusen RSPB Cymru.

Daw eu sylw wrth i'r Ymddiriedolaeth Bysgota alw am saethu mwy o filidowcod er mwyn diogelu eog a sewin yn afonydd Cymru.

Ond yn ôl Daniel Jenkins Jones o RSPB Cymru, mae angen "tystiolaeth gref" o effaith yr ymddygiad yr adar ar niferoedd pysgod.