Ymchwil geneteg yn un ffactor wrth fridio anifeiliad
Mae'r ymchwil diweddaraf ar eneteg gwartheg yn darparu "arf arall" yn erbyn TB medd Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae'r rhestr genetig yn galluogi ffermwyr i weld y potensial sy' gan unrhyw darw penodol o basio gwrthiant i TB ymlaen i'w loi.
Ond yn ôl Brian Walters, llefarydd yr undeb ar y clefyd, un ystyriaeth yw hyn i ffermwyr, sydd hefyd yn gorfod meddwl am nifer o agweddau eraill wrth fridio.