Yr heddlu eisiau mwy o bwerau i ladd cŵn sy'n lladd stoc

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn un o'r llond llaw o heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr sy'n cofnodi nifer yr ymosodiadau gan gŵn ar stoc byw.

Ers dechrau yn 2013 maen nhw wedi cofnodi 449 o ymosodiadau ar anifeiliaid fferm.

Ond mae'r swyddog Dewi Evans, sy'n rhan o dîm troseddau cefn gwlad y llu, yn dweud bod angen newid y ddeddf er mwyn rhoi mwy o bwerau i allu difa cŵn yn y fan a'r lle.