Beirniadu parhad tollau fel 'treth Alun Cairns'
Mae AS Gorllewin Casnewydd yn dweud y dylai'r tollau ar bontydd Hafren ddod i ben yn syth.
Mae cost croesi o Loegr i Gymru wedi gostwng wedi i'r pontydd ddychwelyd i ddwylo cyhoeddus, gydag addewid y bydd y tollau yn cael eu diddymu erbyn diwedd y flwyddyn.
Ond yn ôl Paul Flynn, dylai hynny ddigwydd nawr ac mae'n dweud mai "cash cow" i Lywodraeth y DU ydy'r pontydd, gyda'r tollau gyfystyr â "threth Alun Cairns".