Defnyddio dronau yn y frwydr yn erbyn troseddu

Mae lluoedd heddlu Cymru yn gwneud mwy a mwy o ddefnydd o dronau.

Heddlu'r Gogledd yw'r diweddaraf i sefydlu uned dronau arbenigol er mwyn taclo torcyfraith, a dod o hyd i bobl sydd ar goll.

Dywedodd y prif gwnstabl y bydd y dechnoleg yn helpu i lenwi'r bwlch sydd yna oherwydd toriadau yn y defnydd o hofrenyddion yr heddlu.

Adroddiad gan Sion Tecwyn.