Dim trafodaeth eto rhwng Osian Roberts a Ryan Giggs

Nid yw Osian Roberts wedi trafod ei ddyfodol gyda rheolwr newydd Cymru, Ryan Giggs.

Dywedodd Roberts, wnaeth hefyd ymgeisio am swydd y rheolwr, ei fod yn disgwyl i'r sgwrs ddigwydd "yn gynharach yn hytrach na'n hwyrach".

Ychwanegodd nad oedd wedi gwneud unrhyw benderfyniadau am y dyfodol, ac mai "amser a ddengys".