Trafodaethau Osian Roberts a Ryan Giggs yn 'parhau'

Mae is-reolwr pêl-droed Cymru, Osian Roberts, wedi dweud ei fod wedi cael sgwrs gyda rheolwr newydd y tîm cenedlaethol, Ryan Giggs.

Ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd nad oes penderfyniad eto ynglyn â'r dyfodol, ond bod y trafodaethau "wedi mynd yn dda iawn".

Ond fe bwysleisiodd mai'r peth yw pwysig yw gwneud y penderfyniad cywir.