Biwrocratiaeth amaeth yn atal yr ifanc rhag ffermio
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd fforwm amaeth newydd yn cychwyn bydd yn cael ei siapio gan bobl ifanc a gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal mae cronfa gwerth £6m wedi'i gyhoeddi hefyd, i ddatblygu sgiliau arwain ymysg ffermwyr ifanc a rhai sydd yn dechrau arni yn y maes.
Croesawu'r newyddion mae Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Ond mae'n dweud mai un o'r heriau sydd yn atal pobl ifanc rhag ffermio yw gormod o fiwrocratiaeth ac mae'n gobeithio y bydd modd "lliniaru" arno gyda dyfodiad y gronfa.