'Angen cynyrchiadau gwreiddiol i Gymru'

Mae angen i'r llywodraeth fuddsoddi mwy mewn cwmnïau teledu a thalent o Gymru yn hytrach na'r tu allan, yn ôl actor.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd Julian Lewis Jones ei fod yn "hollbwysig" fod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy mewn prosiectau sy'n wreiddiol i Gymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod dros £100m wedi ei wario yng Nghymru gan gynyrchiadau allanol dros bum mlynedd, a'i fod yn "annhebygol" y byddai'r cwmnïau'n dod i Gymru heb fuddsoddiad y llywodraeth.