Elwa o gael gofal gartref yn lle mynd i'r ysbyty

Mae rhaid cael "trafodaeth genedlaethol aeddfed" ynglŷn ag adrefnu gwasanaethau iechyd meddai'r ysgrifennydd iechyd.

Oni bai bod newidiadau pellgyrhaeddol yn cael eu cyflwyno, meddai Vaughan Gething, gallai rhai gwasanaethau iechyd "ddymchwel" a pheryglu cleifion.

Daw hyn ar ôl i gynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda gael eu cyhoeddi.

Y nod, meddai'r bwrdd iechyd, yw cyflwyno gwasanaethau sy'n fwy addas ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, a symud mwy o ofal o'r ysbytai i gartrefi pobl lle mae'n addas.

Un sydd wedi elwa o gael gofal yn y cartref yw Della Davies, 75 oed, o Lanelli.

Mae'n dioddef gyda chyflwr i'w hysgyfaint ac yn y gorffennol roedd yn rhaid iddi fynd i'r ysbyty bedair gwaith y flwyddyn am bythefnos i gael cyffuriau.

Canmol y gofal sy'n cael ei rhoi gan nyrsys arbenigol mae Gilmour ei gŵr.