Pryder am swyddi cynorthwywyr dosbarth yng Ngwynedd

Mae undeb Unsain wedi dweud eu bod yn pryderu am ddyfodol "cannoedd" o swyddi cynorthwywyr dosbarth yng Ngwynedd.

Mae'r undeb yn rhagweld y gallai rhagor o ysgolion ar draws Cymru gael eu taro wrth i gynghorau wneud toriadau ariannol.

Mae pryder hefyd am yr effaith posib ar addysg plant.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae pob ymdrech yn cael ei wneud, ble'n bosib, i osgoi colli swyddi. Dafydd Gwynn sydd â'r manylion.