Pysgotwyr am 'fynd i'r wal' heb gymorth yn sgil Brexit

Mae Cymdeithas Pysgotwyr Cymru yn dweud bod angen system iawndal i bysgotwyr os bydd tollau ac oedi wedi Brexit yn effeithio ar allforion.

Yn ôl Sion Williams, llefarydd sydd hefyd yn bysgotwr ym Mhen Llŷn, mae'r cynnyrch sy'n cael ei werthu o Gymru yn "ffres" a dyw hi ddim yn bosib ei gadw am wythnosau.

Os na fydd hi'n bosib i bysgotwyr werthu eu cynnyrch am gyfnod hir, gallai hyn olygu bod perygl i fusnesau "fynd i'r wal".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "am weld diwydiant pysgota Cymru yn derbyn ei chyfran deg o'r cyfleoedd i bysgota yn y dyfodol".