Cŵn yn lladd defaid yn 'broblem fawr' yn ôl yr heddlu

Mewn adroddiad gan Gyngor Cenedlaethol y Prif Gwnstabliaid (NPCC), mae'r Prif Gwnstabl David Jones yn dweud fod poeni da byw yn "broblem sylweddol i ffermwyr sy'n effeithio ar eu bywoliaeth".

Ar hyn o bryd does dim rhaid i berchnogion cŵn adrodd i'r heddlu os yw ci yn ymosod ar anifail, a dydy ymosodiadau o'r fath ddim yn cael eu cofnodi fel trosedd ar system yr heddlu.

Ond mae'r NPCC yn gobeithio newid hynny, gan alw am fwy o bwerau i gadw cofnod DNA o gŵn sy'n cael eu hamau o ymosod ar dda byw.

Mae PC Dewi Evans yn gweithio i dîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru ac mae'n dweud ei fod yn broblem fawr yn y gogledd.