Angen 'ehangu cyrhaeddiad' rhaglen Dechrau'n Deg

Mae AC Plaid Cymru Llŷr Gruffydd wedi dweud fod angen "ehangu cyrhaeddiad" rhaglen Dechrau'n Deg i beidio "cosbi plant" sy'n byw tu allan i gôd post penodol.

Ers cyflwyno'r rhaglen yn 2007 mae Dechrau'n Deg wedi derbyn bron i £600m ac mae'n helpu teuluoedd sy'n byw yn ardaloedd tlotaf Cymru.

Mae ganddi bedair elfen: gofal plant rhan-amser am ddim i blant dwy i dair oed; gwasanaeth ymweliadau iechyd gwell; mynediad i rieni gael cymorth; a mynediad at gymorth datblygu iaith.

Ond yn ôl pwyllgor Cynulliad mae bron i ddwy ran o dair o deuluoedd tlotaf Cymru yn byw y tu allan i'r ardaloedd daearyddol y mae Dechrau'n Deg yn eu cwmpasu.