Chwe Gwlad: Y Cymry ar eu ffordd i Ddulyn

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Aviva, Dulyn, ddydd Sadwrn, mae miloedd o gefnogwyr wedi teithio i'r Ynys Werdd.

Roedd hi'n brysur iawn ym mhorthladd Caergybi ddydd Gwener a dyma farn rhai o'r Cymry oedd ar fin dal y llong dros fôr Iwerddon.