Y Cymry Cymraeg angen 'gwylio S4C eto' medd Guto Harri
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo llywodraeth y DU o "oedi annerbyniol" am nad yw casgliad adolygiad annibynnol o sianel S4C wedi ei gyhoeddi eto.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r llywodraeth gan Euryn Ogwen Williams ym mis Rhagfyr.
Doedd y llywodraeth ddim wedi gosod dyddiad i gyhoeddi'r ddogfen ac maen nhw'n dweud y bydd yr ysgrifennydd diwylliant yn "cyhoeddi'r adolygiad ac ymateb y llywodraeth mewn amser".
Yn ôl Guto Harri, sy'n aelod o awdurdod S4C, yr her yw "manteisio ar y sianel wych yma sydd ganddo ni" ac mae'n annog Cymry Cymraeg i wylio.