Agor Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru
Ddydd Iau bydd Parc Gwyddoniaeth penodedig cyntaf Cymru'n agor ei ddrysau ym mhentref Gaerwen, Ynys Môn.
Mae'r safle, sy'n rhan o Brifysgol Bangor, yn cynnwys labordy, gofod gweithdy a swyddfa ac wedi costio £20m.
Hyd yma, 37% o'r parc sydd wedi ei lenwi gan fusnesau a chwmnïau.
Bydd tenantiaid y parc yn derbyn cefnogaeth fusnes gan swyddog arbenigol er mwyn datblygu, tyfu a chyrraedd "eu potensial gorau".
Yn ôl Dylan Jones- Evans, Athro Mentergarwch ym Mhrifysgol De Cymru, fe allai'r parc lwyddo os yw'r ffactorau iawn yn eu lle.