Tywydd garw'n taro Urdd Gobaith Cymru

Mae'r tywydd wedi achosi cryn dipyn o drafferth i Urdd Gobaith Cymru.

Gyda chriw o ddisgyblion o Wrecsam yn gorfod treulio diwrnod ychwanegol yng ngwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd, a degau o eisteddfodau wedi'u canslo, mae hi wedi bod yn gyfnod heriol i'r mudiad.

Siân Elin Dafydd fu'n sgwrsio â chyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn, am y sefyllfa.