Ffermwyr 'methu cadw anifeiliaid' heb gymhorthdal
Mae yna bryderon y bydd arian sydd ar gael i ffermwyr Cymru yn gostwng 40% wedi Brexit oni bai bod newidiadau i'r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddosbarthu o San Steffan i Fae Caerdydd.
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru mae'n bwysig nad yw'r cymhorthdal yn cael ei rhoi trwy Fformiwla Barnett - fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer addysg ac iechyd - gan ddadlau y byddai'n golygu llai o arian nag sy'n dod o Ewrop ar hyn o bryd.
Dywedodd y Trysorlys eu bod wedi ymrwymo i gyfrannu'r un swm ac sy'n dod i amaeth Cymru o'r Undeb Ewropeaidd tan 2022.
"Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i'r sector nac sy'n bodoli o dan y drefn CAP presennol," meddai'r llefarydd.
Mae Brian Thomas, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, yn dweud bydd ffermwyr yn rhoi'r gorau iddi oni bai eu bod yn cael digon o gymhorthdal.