'Bwysig' bod profiad disgyblion anabl yr un peth
Dylai cynghorau a Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu ysgolion gwrdd â gofynion disgyblion anabl, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Yn ôl Sally Holland mae'n bwysig bod profiadau disgyblion anabl yr un peth ar draws Cymru.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu canllawiau gafodd eu cyhoeddi'n 2004.
Dywed y llywodraeth eu bod yn "datblygu canllawiau diwygiedig mewn ymgynghoriad â'r Comisiynydd Plant" ac y bydd y canllawiau yn "rhoi cefnogaeth lawn i ddisgyblion anabl".
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.