Enwi trên ar ôl Syr Gareth Edwards 'yn anrhydedd'

Mae Syr Gareth Edwards yn dweud fod cael trên wedi ei enwi ar ei ôl yn "fraint ac yn anrhydedd".

Mae Great Western Railway wedi enwi dau ben yr intercity express rhif naw ar ôl Syr Gareth a'r diweddar John Charles.

Yn enwau eiconig ym myd rygbi a phêl-droed yng Nghymru a thu hwnt, roedd y ddau yn gwisgo crysau rhif naw pan yn cynrychioli eu gwlad.

Bu farw John Charles yn 2004, ond roedd ei weddw, Glenda, yn bresennol yn yr achlysur.

A hithau'n eistedd wrth ymyl Syr Gareth ar y trên, fe soniodd am y fraint.