Rhodd i amgueddfa wnaeth ysbrydoli artist o Gymru

Mae'r artist Cerith Wyn Evans wedi creu darn o gelf fel rhodd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dywedodd y gŵr o Lanelli, sydd wedi dangos ei waith ar draws y byd, ei fod wedi treulio amser yn yr amgueddfa pan yn blentyn.

Mae dadorchuddio'r gwaith sydd a'r teitl 'Radiant Fold (....the Illuminating Gas)' yn "anrhydedd", meddai.