System gyfrifiadurol iechyd: 'Meddygon yn bygwth ymddeol'
Mae sefydliad sy'n cynrychioli meddygon teulu wedi mynegi pryder y bydd nifer yn penderfynu ymddeol yn gynnar yn hytrach na chael eu gorfodi i ddefnyddio system gyfrifiadurol newydd.
Fe fydd y system EMIS, sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd, yn cael ei ddisodli o 2019/20 yn dilyn proses dendro.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, bod meddygon teulu "dan ddigon o straen fel ag y maen nhw ar hyn o bryd", a bod angen gwerthuso'r system newydd cyn ei roi ar waith