'Argyfwng cudd' o fewn y byd addysg

Mae diffyg cyllid yn golygu bod yna "argyfwng cudd" yn wynebu ysgolion Cymru, yn ôl penaethiaid.

Maen nhw'n dweud bod yr effaith i'w deimlo'n barod, gyda dosbarthiadau mwy ac athrawon yn gorfod dysgu sawl pwnc.

Mae BBC Cymru hefyd wedi cael gwybod y gallai mwy o swyddi ddiflannu wrth i'r esgid wasgu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n blaenoriaethu cyllid i gynghorau er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd ysgolion yn uniongyrchol.

Mae Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac aelod o bwyllgor gwaith Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, yn dweud bod y toriadau yn mynd i effeithio ar ddyfodol plant am na fydd modd cynnal safonau mewn ysgolion gyda llai o gyllid.