Cyfoeth Naturiol Cymru 'ddim yn gwneud eu gwaith'
Mae BBC Cymru'n deall bod cwyn swyddogol wedi ei wneud i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'r modd y mae Llywodraeth Cymru'n delio â llygredd amaethyddol.
Yn ôl Afonydd Cymru, y corff sy'n siarad dros chwe ymddiriedolaeth afon y wlad, mae gweinidogion wedi methu â gweithredu'n addas i atal y broblem.
Dywedodd Illtud Griffiths o'r corff bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb i "addysgu pobl bod rhaid edrych ar ôl ein hamgylchfyd", ond ar y funud nad ydyn nhw'n "gwneud eu gwaith yn iawn".