'Cyfaddawdu' gyda newidiadau posib i Eglwys Blaenpennal

Mae deiseb wedi ei arwyddo gan dros 100 o bobl sy'n gwrthwynebu newidiadau i Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal yng Ngheredigion.

Byddai'r newidiadau'n golygu symud y bedyddfaen o gefn yr Eglwys, a cholli rhai corau.

Yn ôl y rhai sy'n erbyn y cynnig byddai'r gwaith yn dinistrio adeilad arbennig.

Ond mae'r Eglwys yng Nghymru'n dweud bod y newidiadau "ddim yn radical" a bod yn rhaid i eglwysi addasu i anghenion y gynulleidfa pan fo'n bosib.

Mae'r Canon Phillip Wyn Davies, sy'n ficer yn yr eglwys, yn dweud eu bod yn ceisio ystyried anghenion yr "addolwyr rheolaidd" â'r "gynulleidfa ehangach".