Teyrngedau wedi marwolaeth merch fach yn Afon Teifi

Mae merch fach gafodd ei darganfod mewn car yn Afon Teifi, Aberteifi, brynhawn Llun, wedi marw.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod Kiara Moore, dwy oed, wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael ei hedfan yno.

Mae ei theulu wedi ei disgrifio hi fel merch fach "eithriadol o hapus".

Yn ôl Colin Phillips, sy'n ymgymerwr yn Aberteifi, mae'r newyddion wedi tristáu pobl y dref.