'Corwynt eira' yn taro Rhydaman ddydd Sul

Dyma'r eiliad darodd "corwynt eira" ddydd Sul.

Mae'n ffenomen eithaf prin sy'n digwydd pan fydd gwyntoedd arwynebol yn achosi i'r gorchudd eira droi yn yr awyr, gan arwain at chwistrell o ronynnau o eira yn codi o'r ddaear.

Cafodd y fideo yma o'r digwyddiad ei ffilmio yn ardal Rhydaman.