Gobeithion y tîm gymnasteg yng Ngemau'r Gymanwlad

Mewn deg diwrnod fe fydd y cystadlu yn dechrau yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.

O edrych nôl at gemau diwetha' Cymru - y tîm gymnasteg gafodd y llwyddiant mwya' gan gipio deg o fedalau.

Ond a fyddan nhw'n llwyddo cystal eleni?

Un sydd yn gobeithio hynny yw Emily Thomas.

Aeth Iwan Griffiths draw i'w chyfarfod hi a gweddill y tîm.