Colli swyddi prifysgol yn 'ergyd eithriadol i Geredigion'

Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi dweud y byddai colli swyddi ym Mhrifysgol Aberystwyth yn "ergyd eithriadol" i'r ardal.

Mae'r brifysgol yn ystyried torri un ym mhob wyth swydd yn yr adrannau rheoli a gweinyddol.

Dywedodd Ben Lake y gallai swyddi'n diflannu olygu y bydd pobl yn symud o'r ardal.