Siom i'r capten Non Stanford yn Arfordir Aur

Mae'r cystadlu wedi dechrau yng Ngemau'r Gymanwlad yn Arfordir Aur, Awstralia, ond roedd siom ar y diwrnod cyntaf i gapten tîm Cymru, Non Stanford.

Yn ras triathlon y merched, daeth Stanford yn wythfed, gyda Flora Duffy o Bermuda yn cipio'r aur.

Jessica Learmonth o Loegr gipiodd y fedal arian gyda Joanna Brown, Canada, yn drydydd.

Bu'r capten yn siarad am ei siom ar ôl y ras gyda Iwan Griffiths.