Cynghorydd yn trafod pwysigrwydd SC2 i'r Rhyl

Mae enw'r parc dŵr newydd sbon, gwerth £15m, sy'n dod i'r Rhyl wedi cael ei ddatgelu i'r cyhoedd.

Bydd y parc, SC2, yn agor i'r cyhoedd yng ngwanwyn 2019 ac mae disgwyl iddo ddenu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i'r dref bob blwyddyn.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, fod y gwaith o ddatblygu glan y môr yn dechrau siapio a'i fod yn "falch iawn" o'r hyn sydd yn cael ei wneud.

Mae SC2 yn rhan o gynlluniau ehangach i ddatblygu ac adfywio ardal glan môr y dref.