Ffermwr yn dathlu lloi 'siawns 700,000/1' ar Ynys Môn
Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael "dipyn o sioc" ar ôl i fuwch roi genedigaeth i dripledi, a phob un yn fenywaidd.
Mae'n debyg bod hynny'n digwydd mewn un ym mhob 700,000 o enedigaethau.
Ar fferm Cennydd Lewis Owen, Cefn Du Isaf ger Gaerwen, y cafodd y lloi eu geni, a hynny i fam brîd Belgian Blue, a tad Hereford o'r enw 'Loose Cannon'.
Gethin Morris Williams fuodd yn ei holi ar y Post Cyntaf.