Cyfeirio'r Mesur Parhad: 'Dim sialens i rym y Cynulliad'

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y byddan nhw'n cyfeirio Mesur Parhad Llywodraeth Cymru i'r llys uchaf yn y wlad.

Y Goruchaf Lys fydd yn penderfynu os fydd y mesur yn cael bod yn ddeddf.

Cafodd y mesur ei basio gan Aelodau'r Cynulliad ym mis Mawrth er mwyn ceisio gwarchod pwerau'r Cynulliad ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi pwysleisio eto ddydd Mawrth nad "sialens i rym y Cynulliad" yw'r penderfyniad i gyfeirio'r mesur.