Ansicrwydd am lwybr Rali Cymru GB yn parhau
Mae trefnwyr Rali Cymru GB yn obeithiol y byddan nhw'n cael yr hawl i gynnal cymal olaf y ras eleni ar y prom yn Llandudno.
Roedden nhw wedi bwriadu cyhoeddi llwybr y rali fore Mawrth, ond dydy'r cynlluniau heb gael cymeradwyaeth corff rheoli'r gamp, yr FIA, ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr FIA bod "trafodaethau'n parhau".
Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y Rali, Ben Taylor, mae'r oedi gan mai ar darmac - ac nid greaen - fyddai'r cymal ar ffyrdd Llandudno.
Mae hynny gan fod angen i'r cymal cyffro - sy'n dod â phwyntiau ychwanegol - weddu â'r ras yn ei chyfanrwydd. Ar raean mae'r cymalau yn y fforestydd.
Dywedodd Mr Taylor bod "angen cael caniatâd" i gael eu heithrio rhag y rheol honno a bod "hynny'n cymryd ychydig o amser".
Yn y lansiad ddydd Llun, dywedodd enillydd y ras y llynedd - y Cymro Elfyn Evans - bod lle i gyfaddawd.
"Gobeithio allen nhw newid pethau i gynnal y cymal ar adeg gwahanol yn y rali, a falle cael y cymal cyffro yn y fforestydd fel arfer," meddai.
Mae'r rali'n cael ei chynnal ym mis Hydref, ac yn ôl y trefnwyr, mae angen cadarnhau'r llwybr erbyn 4 Mai.